Posted 2 days ago
Goruchwyliwr Gwasanaeth Cwsmeriaid / Customer Service Supervisor
Allscreens Nationwide Ltd
📍 Bangor, GB
Job description
Goruchwyliwr Gwasanaeth Cwsmeriaid // Customer Service Supervisor
Cyflog: £25,422 - £26,707 y flwyddyn (Graddfa 4)
Rydym yn chwilio am Oruchwyliwr Gwasanaeth Cwsmeriaid llawn amser, parhaol i oruchwylio a rheoli gwasanaeth blaen tŷ i bob ymwelydd, myfyrwyr a staff y Brifysgol.
Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn ogystal â sgiliau TG a gweinyddu da. Byddwch yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da ynghyd â'r gallu i weithio ar eich menter eich hun. Dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf 5 TGAU ar raddau A * - C (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu NVQ lefel 2 mewn maes pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol o weithio ym maes gofal cwsmeriaid gyda phrofiad o fod yn bwynt cyswllt cyntaf.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib. Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon. Mae’r swydd yn amodol ar gliriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan amser neu rannu’r swydd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â: Sam Wallwork, Pennaeth Chwaraeon, e-bost s.wallwork@bangor.ac.uk
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.